Sŵn 2024 – Newidiadau Beiddgar a Chyffrous i’r Rhaglen Eleni.

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno Sŵn. Bydd yr ŵyl eleni’n cael ei chynnal o ddydd Iau 17 Hydref tan nos Sadwrn 19 Hydref – ydych, rydych chi wedi darllen yn iawn. Rydyn ni’n symud yr ŵyl ddiwrnod yn gynt, felly cofiwch nodi’r dyddiadau yma yn eich dyddiadur a’u bwcio o’r gwaith!

Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 10am ddydd Llun 8 Ebrill. I’r rhai ohonoch chi sydd wedi cofrestru ar gyfer ein rhestr e-bost, mae tocynnau deryn cynnar nawr ar werth, lle gallwch fachu tocynnau 2024 am y pris isaf posib.

Yn 2024, bydd Sŵn yn dychwelyd gyda fformat beiddgar newydd ar gyfer yr ŵyl a newidiadau cyffrous i’n rhaglen. Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gŵyl yn fwy agored i’r gymuned ehangach drwy gyflwyno cynlluniau talu, tocynnau consesiwn, a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr ŵyl drwy ein rhaglen wirfoddoli a chynllun ceisio i chwarae newydd sbon.

Yn ogystal â’r newidiadau da rydyn ni’n eu cyflwyno i’r ŵyl, eleni mae Sŵn yn bartner balch i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd; sef dathliad o gerddoriaeth arloesol a medrus dros dair wythnos ym mhrifddinas ffyniannus Cymru fis Medi a Hydref. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd – sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd – yn cynnig tair wythnos o gigs, digwyddiadau trochol, preswylfeydd, gosodweithiau a phop-yps, gan wthio ffiniau arloesedd cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg.

Fformat Newydd Sbon yr Ŵyl

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi – am y tro cyntaf ers pum mlynedd – y bydd Sŵn yn aml-leoliad dros dri diwrnod yr ŵyl. Rydyn ni’n siŵr y byddwch chi’n cytuno mai hanfod yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl mor gyffrous yw’r profiad aml-safle.

Ddydd Iau 17 Hydref, bydd Sŵn yn llenwi Stryd Womanby gyda phum llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach, Tiny Rebel a Fuel, a’n cyfnewidfa bandiau arddwrn yn Mad Dog Brewery Co.

Ddydd Gwener 18 Hydref a Dydd Sadwrn 19 Hydref, bydd yr ŵyl yn ehangu allan ar draws canol dinas Caerdydd, gyda phedwar llwyfan ychwanegol yn Tramshed, Jacobs Antiques Market, a Cornerstone.

Partneriaid Llwyfan

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi partneru â DIY eleni, a fydd yn cymryd yr awenau ar un o’n llwyfannau ac yn curadu ei raglen. Ond nid dyna’r cwbl, mae ganddon ni bartneriaid llwyfan cyffrous eraill i’w cyhoeddi dros y misoedd i ddod.

Ceisio i chwarae yn Sŵn 2024

Am y tro cyntaf erioed eleni byddwn ni’n cyflwyno cynllun ceisio i chwarae, lle gall artistiaid gyflwyno eu cerddoriaeth i gael cyfle i berfformio yn Sŵn. Byddwn ni’n dewis pump artist llwyddiannus o’r cynllun ceisio i chwarae i berfformio yn yr ŵyl eleni. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei chyhoeddi’n fuan. I glywed pryd bydd ceisiadau’n agor cofrestrwch ar gyfer ein rhestr e-bost.

Cynllun Talu, Tocynnau Consesiwn, a Thocynnau Cynrychiolwyr

Rydyn ni wedi cyflwyno cynllun talu eleni, lle gallwch dalu am eich tocyn mewn pedwar rhan. Bydd angen gwneud y taliadau ar y 1af o bob mis, a’r taliad olaf i’w wneud 1 Awst. Y cynharaf rydych chi’n archebu’ch tocynnau, y rhataf fydd y taliadau. Gellir canfod mwy o wybodaeth wrth brynu’ch tocynnau gyda ein cyflenwyr tocynnau, Universe.

Am y tro cyntaf erioed eleni rydyn ni hefyd wedi cyflwyno tocynnau consesiwn ar gyfer pobl 23 oed neu iau, a/neu i unrhyw un sydd mewn addysg bellach waeth beth yw eu hoedran. Mae’r tocynnau yma’n dechrau o ddim ond £35.

Newid arall i’r opsiynau tocynnau eleni yw cyflwyno tocynnau cynrychiolwyr.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 10am ddydd Llun 8 Ebrill. I’r rhai ohonoch chi sydd wedi cofrestru ar gyfer ein rhestr e-bost, mae tocynnau deryn cynnar nawr ar werth, a gallwch fachu’ch tocynnau am y pris isaf eleni.

Nid Dyna’r Cwbl

Mae ganddon ni lawer mwy o newyddion a chyhoeddiadau i ddod. Byddwn ni’n cyhoeddi cyfleoedd a ffyrdd o gymryd rhan yn yr ŵyl, fel gwirfoddoli, yn ogystal â chyfleoedd addysg a datblygu i artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. I gael clywed holl newyddion diweddaraf Sŵn cofrestrwch ar gyfer ein rhestr e-bost.