AMDANOM
Sŵn, prif ŵyl darganfod cerddoriaeth Cymru.
Gŵyl cerddoriaeth newydd aml-leoliad lwyddiannus yw Sŵn, sydd wedi bod yn gonglfaen i dirlun diwylliannol Caerdydd ers 2007. Gydag ymrwymiad clir i arddangos cerddoriaeth newydd ac artistiaid dawnus sy’n dechrau arni, mae’r ŵyl wedi’i chreu i ddathlu ystod amrywiol o artistiaid, o’r lleol i’r rhyngwladol, a hynny yng nghalon artistig Cymru.
Dros dridiau bythgofiadwy bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn dod â rhai o leoliadau a mannau mwyaf poblogaidd Caerdydd at ei gilydd, gan drawsnewid y ddinas yn hyb bywiog o ffans a chrewyr cerddoriaeth.
Mae Sŵn yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: pythefnos o gigs, digwyddiadau a gosodweithiau sy’n harneisio pŵer cerddoriaeth a pherfformio i uno ac ysbrydoli.
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd | 02 – 17 Hydref 2026 | dinasgerddcaerdydd.cymru
