Gallwch, rydyn ni wedi dod â chynlluniau talu ’nôl ar gyfer 2025.
Sut mae Cynllun Talu Gŵyl Sŵn yn gweithio?
Rydyn ni wedi cyflwyno cynllun talu ar gyfer Sŵn 2025 er mwyn helpu gyda chost tocynnau 3 diwrnod a 2 ddiwrnod.
Beth mae hyn yn ei olygu?
- Mae’r cynllun talu yn lledaenu cost eich tocynnau dros nifer o fisoedd, yn dibynnu ar pryd rydych chi’n eu prynu.
- Unwaith i chi gofrestru ar gyfer y cynllun talu, bydd See Tickets yn cymryd taliad yn awtomatig bob mis.
- Codir ffioedd archebu gyda’r taliad cyntaf.
- Dylid nodi mai dim ond y taliad cychwynnol yw pris wynebwerth y tocynnau a restrir ac nid y cyfanswm y byddwch yn ei dalu.
- Ar ôl i chi ddewis eich tocynnau bydd yn rhaid i chi gytuno i rai telerau sy’n ymwneud â Gŵyl Sŵn.
- Nodwch: os byddwch yn methu taliad oherwydd cerdyn coll neu ddiffyg arian yn y cyfrif, bydd SeeTickets yn cysylltu â chi bob wythnos drwy e-bost. Yna rhoddir 20 diwrnod i chi ei dalu drwy nodi manylion y cerdyn. Bydd dyddiad cau ar gyfer talu wedi’i nodi’n glir yn yr e-bost hwn, ac ar ôl hynny bydd eich tocynnau’n cael eu canslo. Ni chewch ad-daliad am y taliadau rydych chi eisoes wedi’u gwneud.
- Os ydych chi wedi archebu ar gynllun talu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio bod yr arian yn gadael eich cyfrif bob mis – os nad yw e am ryw reswm – cysylltwch â SeeTickets i wirio statws eich archeb.
Cyn prynu, mae’r cynllun talu yn dangos yn glir swm y blaendal a symiau a dyddiadau’r taliadau dilynol a gaiff eu cymryd bob mis.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch cynllun talu ar gyfer Gŵyl Sŵn, rydyn ni yma i gefnogi yn ticketing@clwb.net.
Pryd fydd fy nhaliadau’n ddyledus ar gyfer rhandaliadau fy nghynllun talu tocynnau?
Bydd taliad awtomatig yn cael ei gymryd ar ddydd Sul cyntaf bob mis. Os byddwch yn methu taliad ar eich cynllun rhandaliadau, oherwydd diffyg arian neu gerdyn annilys, byddwch yn cael gwybod drwy e-bost gan See Tickets. Yna rhoddir 20 diwrnod i chi ei dalu drwy nodi manylion y cerdyn. Bydd dyddiad cau ar gyfer talu wedi’i nodi’n glir yn yr e-bost hwn. Nodwch, os na fyddwch yn gwneud y taliad, bydd eich tocyn yn cael ei ganslo ac ni chewch ad-daliad am y taliadau rydych chi eisoes wedi’u gwneud.
Os ydych chi wedi archebu ar gynllun talu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio bod yr arian yn gadael eich cyfrif bob mis – os nad yw e am ryw reswm – cysylltwch â SeeTickets i wirio statws eich archeb.
Alla i newid manylion y cerdyn ar fy nghynllun talu?
Ni ellir newid y cerdyn talu a ddefnyddiwyd i dalu rhandaliad, fodd bynnag, os na fydd y cerdyn talu gwreiddiol yn codi tâl, bydd tîm gwasanaeth cwsmeriaid SeeTickets mewn cysylltiad i gael manylion cerdyn newydd. Yna bydd y cerdyn newydd hwn yn cael ei storio ar gyfer taliadau pellach nes bod y tocyn/pecyn wedi’i dalu’n llawn.
Rydw i wedi methu rhandaliad, ydw i’n dal yn gallu ei dalu?
Os byddwch yn methu taliad ar eich cynllun rhandaliadau, oherwydd diffyg arian neu gerdyn annilys, byddwch yn cael gwybod drwy e-bost. Yna rhoddir 20 diwrnod i chi ei dalu drwy nodi manylion y cerdyn. Bydd dyddiad cau ar gyfer y taliad wedi’i nodi’n glir yn yr e-bost hwn, ac ar ôl hynny bydd eich tocynnau’n cael eu canslo ac ni fyddwch yn derbyn ad-daliad am y rhandaliadau sydd eisoes wedi’u talu.
Nodwch: os byddwch yn methu taliad oherwydd cerdyn coll neu ddiffyg arian yn y cyfrif, bydd SeeTickets yn cysylltu â chi bob wythnos drwy e-bost.
Mae gen i gynllun talu, alla i dalu gweddill fy rhandaliadau yn llawn?
Yn anffodus nid yw’n bosibl talu’ch tocyn yn llawn gyda chynllun talu, bydd y taliadau’n cael eu cymryd ar ddydd Sul cyntaf bob mis.
Traciwch eich archeb yma i weld y swm a fydd yn cael ei ddebydu. Defnyddiwch rif eich archeb o’ch e-bost cadarnhau fel eich rhif cyfeirnod.