Sleep Outside
Cerddoriaeth sy’n adleisio ton emo y 00au yw Sleep Outside. O Gaerdydd, via Wandsworth, daw’r caneuon at ei gilydd o alawon agored melancolaidd y canwr/gitarydd Adam Holborn. Gydag ychwanegiad Olly Taki ar y bas a Matt E Williams ar y drymiau, dechreuodd y triawd ysgrifennu dros y cyfnod clo cyn cyhoeddi ‘Skeleton’ ym mis Awst 2021. Yn fand sy’n mynnu dilyn eu trywydd eu hun, mae eu prosiect diweddaraf ‘End Up Alone’ yn cyrraedd uchelfannau newydd o onestrwydd emosiynol, gydag effaith rhai o’u dylanwadau mwy amrywiol yn amlwg. Nid yw Sleep Outside pwyllo yn 2023 chwaith, gyda mwy o sioeau a llu o gerddoriaeth newydd ar y ffordd.