
Yn gothig ac yn rhyfeddol, ni ddylai neb fethu set Slate wrth iddyn nhw ddychwelyd i Sŵn. Ar ôl i’w trac “Deathless” y llynedd ddenu cefnogaeth NME a So Young Magazine, yn ogystal â chael eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Slate wedi’u trysori ledled Cymru. Gyda chaneuon epig fel ‘Remoter Heaven’, sy’n orlawn o ddylanwad geiriau Dylan Thomas, a’r hynod fachog ‘Shade in Me’, sy’n eich gorfodi i gyd-ganu, mae’n rhaid i chi ddal y set yma – wnewch chi ddim difaru.
