My Name Is Ian
Creaduriaid Caerdydd yw My Name Is Ian, ac maen nhw eisoes wedi ffurfio ôl-gatalog a fyddai wedi cysgodi milenia The Stone Roses. Ers 2010, mae eu cynnyrch wedi delio gyda pherthnasau’n chwalu, chwalfeydd personol, paentiadau dirgel o lewod, a chymeriadau o ffilm Big gyda Tom Hanks. Mae’r cynhyrchiant aflonydd yma wedi cyffwrdd genres sy’n cynnwys – ymhlith eraill – lo-fi, pync stafell wely, roc garej, prog a gwrth-werin, a’r cyfan wedi’i ddistyllu drwy ymennydd pop y prif leisydd Reginald Foxwell.