Ethan P. Flynn
Ar ôl cydweithio ag artistiaid fel David Byrne, F.K.A Twigs, Jockstrap, Slowthai, a Black County, New Road, mae Ethan P. Flynn yn bolymath creadigol sydd wedi meistroli ei grefft. Mae’r cyfansoddwr, aml-offerynnwr, a chynhyrchydd yn nodedig nid yn unig am ei lais unigryw, ond am alt-pop heintus llawn synau electronig byrlymus, acwstig moel a lleisiau haenog hardd. Un na ddylid ei golli!