
Gan ddod â Chymraeg a Chernyweg at ei gilydd drwy Bop-Electronig fynegiannol, mae enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn ac enwebai Rhestr Fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn weledigaethol yn ei ffordd hi’i hunan, gan fwynhau archwilio’n chwareus ei gwreiddiau a phob cwr a chornel o gerddoriaeth Bop. Bydd ei hail albwm, ar ôl hir ymaros, yn cael ei ryddhau eleni, felly dyma’r cyfle perffaith i ddathlu’r cyflawniad nodedig yma yn Sŵn – peidiwch â’i methu.
