Flamingods

Yn bla sydd wedi’i ladaenu o gwmpas pob llawr ddawnsio, mae Flamingods yn fand sy’n eich gorfodi i ddawnsio a grŵfio. Cerddoriaeth sy’n gyfuniad o seicadeilia, roc, prog, synau Affricanaidd a Dwyrain Canol gyda llwyth mwy o rhythmau a symudiadau enfawr, amrywiol. Gyda’u gwreiddiau ym Bahrain a Phrydain, mae Flamingods wedi bod yn rhyddhau albymau ers 2012 (gan gynnwys albym ar gwmni recordiau lleol, chwedlonol, Shape), cyn dod o hyd i gartref addas gyda Soundway Records, yna’n symud ymlaen at Moshi Moshi i ryddhau eu halbwm diweddaraf Levitate, ac yn y cyfamser yn parhau i rannu eu cerddoriaeth coslyd, caethiwus a di-baid i weddill y byd.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…