CHROMA
Mae’n anodd credu mai dim ond tri aelod sydd yn CHROMA, ond mae Katie, Bev a Zac yn feistri ar greu sŵn. Mae’r band alt-roc dwyieithog o’r Cymoedd ar fin creu argraff gyda’u halbwm cyntaf ‘Ask For Angela’, sydd i’w ryddhau yr hydref hwn ar Recordiau Alcopop!. Wedi’u dylanwadu gan berfformwyr fel Yeah Yeah Yeahs a The Gossip, maen nhw hefyd yn adlewyrchiadau gwych o sîn alt-roc gyfoethog De Cymru. Gyda chefnogaeth gan BBC Radio 1, BBC 6 Music, Kerrang! Radio, a mwy, mae enw da CHROMA yn parhau i dyfu. Maent wedi perfformio ar lwyfannau SXSW, Reading & Leeds, BBC Radio 1’s Big Weekend, a gwyliau Ewropeaidd yn Barcelona a Llydaw; a sioeau sydd gydag IDLES, Peace, VANT, The Mysteriines, a Tigercub. Os nad ydych chi wedi eu gweld eto, mae’n siŵr y gwnewch chi’n fuan; dewch i brofi eu sioe wefreiddiol yn Sŵn eleni.