Taylor Davies
Cyn ymuno â’r Sheridans, roedd gan Taylor yrfa lwyddiannus ym maes ffilm, teledu a theatr. Roedd yn actor blaenllaw yn West End Llundain ac ymddangosodd mewn sawl cyfres deledu a ffilm.
Roedd Taylor yn gerddor hefyd – yn cyfansoddi, recordio a rhyddhau cerddoriaeth mewn sawl cwmni recordio rhyngwladol ac adloniant byd-eang.
Mae Taylor yn manteisio ar ei brofiad eang a’i rwydweithiau yn y diwydiant adloniant, ac mae’n gallu cynghori cleientiaid yn seiliedig ar ei brofiad fel rhywun creadigol yn y sector.
Yn ogystal â gweithio gyda chleientiaid mwy sefydledig, mae Taylor yn ymfalchïo mewn cynrychioli doniau newydd a busnesau bach o ddechrau eu gyrfaoedd, ac mae’n eu helpu i lywio agweddau masnachol y byd adloniant – boed hynny’n gwmni newydd neu’n artist sy’n gobeithio rhyddhau eu record gyntaf. Mae Taylor yn defnyddio ei gysylltiadau yn y diwydiant i helpu ei gleientiaid i wneud penderfyniadau masnachol llwyddiannus.
Mae Taylor yn gweithio ar draws sylfaen gleientiaid sefydledig y cwmni, ac mae’n cynorthwyo ei gleientiaid ei hun sy’n cynnwys artistiaid, labeli recordio, cynhyrchwyr, rheolwyr, actorion, cynhyrchwyr theatr, cwmnïau ffasiwn, modelau a dylanwadwyr.
