Maria Torres
Dechreuodd Maria Torres, sy’n siarad dwy iaith ac sydd wedi graddio o BIMM, reoli artistiaid wrth astudio yn 2016, ac mae hi wedi gweithio ar draws sectorau amrywiol y diwydiant. Yn ystod y pandemig, sefydlodd ei busnes rheoli annibynnol, sef Sakura Artists, ac roedd hi hefyd yn ymgynghorydd rheoli artistiaid ochr yn ochr â’r rheolwr clodwiw Stephen Budd. Mae’n angerddol am gefnogi gweithwyr benywaidd ac anneuaidd yn y diwydiant, fel y gwelwyd drwy ei gwaith gyda Phrosiect Saffron Springboard yn 2021. Yn 2022, ymunodd â Mother Artists fel Rheolwr Artistiaid, gan weithio ar draws ystod o artistiaid yn cynnwys IDLES, 86TVs, Blair Davie, cyn derbyn TTSSFU yn fwy diweddar, sydd hefyd yn chwarae yng Ngŵyl Sŵn.
