Jamal Guthrie
Mae Jamal yn Gyfarwyddwr gydag asiantaeth LNZRT yn Llundain. Dros y degawd diwethaf, mae wedi gweithio ym maes marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, rhaglennu a phartneriaethau ar gyfer gwyliau a lleoliadau annibynnol, gan gynnwys Wide Awake, MOTH Club, The Shacklewell Arms, The 100 Club a Rich Mix.
Fe hefyd yw sylfaenydd Route, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n cefnogi pobl ifanc o gefndiroedd ymylol i ddilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth drwy ddarparu cyfleoedd gwaith, mentoriaeth, a chyngor ymarferol.
