Ymgeisio i Chwarae yn Sŵn 2024
Mae Gŵyl Sŵn yn dychwelyd am yr 16eg tro fis Hydref yma, a ry’n ni’n awyddus i groesawu’r to nesaf o artistiaid ifanc i’r brif ŵyl yng Nghymru ar gyfer darganfod cerddoriaeth newydd.
Dros y blynyddoedd mae Sŵn wedi croesawu Self Esteem, Sam Fender, Black Country New Road, Dry Cleaning a llawer mwy i’r brifddinas ar ddechrau eu gyrfaoedd… ac allwch chi fod y nesaf!
Ry’n ni wedi partneru gyda Amplead ar gynllun Ymgeisio i Chwarae yn Sŵn 2024!
Mae ceisiadau ar gyfer Ymgeisio i Chwarae yn Sŵn 2024 ar agor nawr, ac yn cau 9yh Gorffennaf 26ain. Am be wyt ti’n aros?