Dosbarthiadau Meistr Sŵn Cysylltu
-
Wrth i’r ffordd o ddarganfod cerddoriaeth barhau i newid, Rishi Shah (llawrydd) a Rachelle Cox (Bricks Magazine) sy’n trafod sut i feithrin llais a gyrfa ym myd y cyfryngau cerddoriaeth heddiw, a sut mae rôl y newyddiadurwr yn newid. Teresa Delfino yn cadeirio’r sesiwn.
-
Sesiwn llawn cyngor ymarferol i gerddorion ifanc uchelgeisiol, wrth i Matt Maltese rannu mewnolwg i’w daith fel artist, cyfansoddwr caneuon (Rosalía, Jamie T, Joy Crookes), cyfansoddwr ar gyfer theatr a pherchennog label annibynnol. Sophie Williams yn holi.
-
Mae mwy o gerddoriaeth yn cael ei rhyddhau nag erioed o’r blaen, felly sut mae artistiaid newydd yn sefyll allan a thyfu cynulleidfa? Emily Pilbeam o BBC Radio 6 Music, ynghyd â’r cynhyrchydd Sara Tabar, yn trafod rôl radio heddiw wrth gyflwyno cerddoriaeth newydd a dylanwadu ar chwaeth.
Paneli Sŵn Cysylltu
-
Be sydd angen digwydd nesaf i gefnogi artistiaid, lleoliadau, sefydliadau a’r diwydiant cerddoriaeth ehangach yng Nghymru? Ymunwch â Roger Wilson, Pennaeth Cerddoriaeth newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, David Ball (Cymru Greadigol), Sophie Asquith (MVT), Jen Burke (Aelod Cabinet dros Ddiwylliant ac Is-gadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd) a Kev Tame (Recordiau Sain) am drafodaeth agored ar gyfleoedd a blaenoriaethau’r sector, wedi’i gadeirio gan Tori Sillman (Create Cardiff).
-
Mae Iwerddon yn cymryd camau mentrus i gefnogi artistiaid, tra bod cenhedlaeth newydd o artistiaid cartref yn mwynhau llwyddiant rhyngwladol. Estelle Wilkinson, Catherine Martin (The Ivors Academy), Finn Manning (Cardinals) a’r rheolwr Sam McGlynn sy’n trafod menter Incwm Sylfaenol i Artistiaid y wlad a sut y gall cefnogaeth ystyrlon helpu artistiaid i adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy.
-
Sut mae pêl-droed yn helpu i roi cerddoriaeth Gymreig ar lwyfan mwy? Mae Ibby Abdi (IBY World), James Webb (Dylunydd) a Connor Cupples (Cwmbran Celtic FC) yn archwilio sut mae cerddoriaeth, ffasiwn a diwylliant pêl-droed yn croestorri, a sut mae artistiaid a chymunedau creadigol yn dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd drwy’r gêm; caiff y drafodaeth ei chadeirio gan Ryan March (Alternative Wales).
-
Wedi’i ysbrydoli gan record eiconig 1995, daeth Help(2), ag enwebwyd am Wobr Mercury, ag artistiaid yn cynnwys Arctic Monkeys, Pulp a Fontaines D.C. ynghyd i greu albwm newydd i gefnogi War Child. Dewch i glywed sut ddaeth y record at ei gilydd yn Abbey Road mewn un wythnos ryfeddol, a’r effaith mae’r albwm yn ei chael wrth gefnogi gwaith yr elusen gyda phlant sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro.
-
Yn ystod blwyddyn arwyddocaol yn 2026 – blwyddyn lle maent wedi disgleirio yng Ngŵyl Green Man, rhyddhau eu hail albwm Massive Champion a sicrhau lle fel band cefnogi ar daith stadiwm Harry Styles – mae Getdown Services wedi trawsnewid o fod yn ffefryn cwlt i fand sydd ar gynnydd amlwg. Mae Huw Stephens yn ymuno â’r ddeuawd ar gyfer sgwrs onest am y cyfnod prysur a chyffrous dros y flwyddyn ddiwethaf a’r hyn sydd i ddod.
