Skip to content
Sŵn-CYSYLLTU-FULL-LOGO-(Black)

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi cynhadledd ar ei newydd wedd, Sŵn Cysylltu. Dyma gynhadledd ddeuddydd ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth sy’n cynnig cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â Gŵyl Sŵn.

Mae’r gynhadledd wedi’i dylunio ar gyfer y cyhoedd, artistiaid, gweithwyr newydd yn y diwydiant, cynrychiolwyr a deiliaid tocynnau Gŵyl Sŵn, ac mae’r digwyddiad yn ceisio pontio’r bwlch rhwng artistiaid newydd o Gymru a gweithwyr y diwydiant, gan gynnig llwyfan i rannu arbenigedd gyda chyfoedion ledled Cymru a gwledydd Prydain, mewn diwydiant heb ganllaw diffiniol.

Bydd y gynhadledd yn Cornerstone, Caerdydd, ar 18 ac 19 Hydref, ac yn cynnwys cyfuniad o drafodaethau panel craff, cyfweliadau nodedig, a chyfarfodydd rhwydweithio.