Sŵn Cysylltu
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi cynhadledd ar ei newydd wedd, Sŵn Cysylltu. Dyma gynhadledd ddeuddydd ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth sy’n cynnig cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â Gŵyl Sŵn.
Mae’r gynhadledd wedi’i dylunio ar gyfer y cyhoedd, artistiaid, gweithwyr newydd yn y diwydiant, cynrychiolwyr a deiliaid tocynnau Gŵyl Sŵn, ac mae’r digwyddiad yn ceisio pontio’r bwlch rhwng artistiaid newydd o Gymru a gweithwyr y diwydiant, gan gynnig llwyfan i rannu arbenigedd gyda chyfoedion ledled Cymru a gwledydd Prydain, mewn diwydiant heb ganllaw diffiniol.
Bydd y gynhadledd yn Cornerstone, Caerdydd, ar 18 ac 19 Hydref, ac yn cynnwys cyfuniad o drafodaethau panel craff, cyfweliadau nodedig, a chyfarfodydd rhwydweithio.
Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd, mae Gŵyl Sŵn wedi mynd ati’n ofalus i guradu panel o 30 o fentoriaid o Gymru a gwledydd Prydain. Bydd rhain yn arweinwyr yn y diwydiant ac yn adnabyddus am eu harbenigedd, ac yn rhannu eu mewnwelediadau drwy sgyrsiau a sesiynau rhwydweithio, gan rannu cyfoeth o wybodaeth werthfawr â’r cynadleddwyr. Ewch draw i dudalen Sŵn Connect i ddysgu mwy am ein Mentoriaid.
Gallwch brynu tocynnau i Sŵn Cysylltu am £10 am ddiwrnod, neu £15 am ddau ddiwrnod. Os oes gennych chi docyn cyffredinol Gŵyl Sŵn, mae croeso i chi ymuno â ni yn Sŵn Cysylltu.
Mae tocynnau Sŵn Cysylltu ar gael yma.
Mae tocynnau Gŵyl Sŵn ar gael yma.
Mae Sŵn Cysylltu yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad dros dair wythnos o gerddoriaeth arloesol a chlodwiw sy’n dod i’r brifddinas, a fydd yn llawn gigs, digwyddiadau trochol, preswylfeydd, gosodweithiau, a digwyddiadau untro, gan wthio ffiniau cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg.