Sunshine-Frisbee-Laserbeam

Os ydych chi yng Ngwyl Sŵn eleni ac yn chwilio am fand hwyl a doniol sydd am wneud i chi neidio fyny ac i lawr a chyd-ganu pob un gair o bob cytgan gyda’r band, stopiwch, mae Sunshine Frisbee Laserbeam yma. Fel yr awgrymir eu henw bondigrybwyll, mae nhw yma i gael hwyl, chwarae tiwns a sicrhau bod pawb yn cael amser ARBENNIG – trwy’r amser. 

Daw’r rocers garej doniol yma o Firmingham ac maent yn sicr o’ch swyno gyda’u bops gitar trwm a’u caneuon chwareus. Does dim angen dweud mwy, mae’r band yma yn barod i gael hwyl gyda chi yng Ngwyl Sŵn. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…