Squid

Rhyddhaodd y ffenomenom ôl-bync, disgo-ffync Squid eu sengl newydd o’r enw ‘Houseplant’ yn ddiweddar – mae’n dangos eu pŵer difrifol yn berffaith. Mae Squid yn adnabyddus am eu setiau byw, yn perfformio sets llawn egni, chaos ac anrhefn pur. Ar ôl perfformio mewn sawl gwŷl a chael cefnogaeth gan Radio 1, 6 Music a’u cynnwys yn The Guardian, The Quietus, NME a llawer mwy, mae 2019 yn argoeli’n dda iawn i Squid.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…