She-Makes-War

Diwydiant un person, mae Laura Kidd o Fryste’r un mor gyfforddus yn strymio ukele nag yw hi’n blastio gitâr electrig, gyda chaneuon sy’n trafod y gwleidyddol a’r personol ac unrhyw le rhyngddynt. Rhyw beth o eicon cwlt gyda’i chefnogwyr, ‘Brace For Impact’ yw bedwerydd albwm Kidd, ac yn dilyn cydweithrediadau gyda Tanya Donelly, Tricky a Viv Albertine, a sioe un-fenyw ‘stand up’ yng Ngŵyl Caeredin. Mae’r caneuon yn aros yn drosgynnol drwyddi draw: hudolus neu ddathliadol, wedi’i drefnu’n hyfryd neu’n blaen, yn hardd iawn, mae She Makes War yn rym cryf am dda.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…