Shadowlark

Yn creu pop electro, cyfoethog a sinematig mae’r triawd newydd o Leeds Shadowlark wedi ffrwydro mewn i’r sîn eleni a rydym yn edrych ymlaen at eu croesawi i Gaerdydd yr Hydref hwn.

Mae’r triawd yn llwyddo i greu melodïau blasus trwy nofio dros donnau o synth gan greu ymdeimlad o hiraeth fuzzy. Cawn awyrgylch tebyg i awyrgylch albym Lorde neu Lana Del Rey wrth wrando ar Shadowlark.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…