Self-Esteem

Yn berson cwbwl gwahanol i’r person oedd yn y band werin amgen Slow Club, mae Self Esteem yn llwyfan i bresenoldeb magnetig Rebecca Lucy Taylor. Yn creu cerddoriaeth wych, fodern ac ysgytwol mae Taylor yn wefreiddiol wrth berfformio’n unigol. Ymysg y melodïau ysgafn a’r curiadau llwm mae’r artist unigol yn cofleidio pob cyfle i serennu. Wedi’i chyfarwyddo gan neb arall ond ei hun wrth syllu’n ddiarwybod mewn i’r camera mewn fideo cerddorol, mae Self Esteem yn hawlio pob perfformiad. Mae ei albym diweddaraf Compliments Please yn llawn caneuon gan seren bop – rheiny’n ganeuon pop-glasurol a chaneuon pop-arbrofol. Petai ni’n byw mewn byd cyfiawn byddai’r gân The Best yn hit rhyngwladol – Ar fy llw mêt.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…