Sea Power

Sea-Power

Pryd

Sadwrn 22.10.22

Ble

O’Neill’s

Mae’r band indi cysyniadol Sea Power (British Sea Power gynt) yn ymgorffori elfennau o arbrofion roc celf ac ôl-roc gyda lefel anghyffredin o ddychymyg a deinameg. Fe’u ffurfiwyd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif gan y brodyr Yan a Neil Wilkinson, ac er bod aelodau’r band wedi newid dros y blynyddoedd, mae’r rhai presennol yn cynnwys hen ffrind ysgol, y drymiwr Matthew Wood, Martin Noble [allweddellau/gitâr], Abi Fry [fiola] a Phil Sumner [allwedellau/cornet/gitâr]. Ar ôl mynd ar deithiau yn cefnogi bandiau pwerus fel The Flaming Lips, The Killers, Pulp ac Interpol gyda British Sea Power, rhyddhaodd y chwechawd myfyriol eu halbwm gyntaf o dan eu henw newydd ym mis Chwefror eleni.