Scalping

Yn cropian fyny o’r byd tanddaearol ym Mryste mae Scalping yn chwarae cerddoriaeth techno ôl-bync sy’n rhoi lle cyfartal i sgrechfeydd acid a gitars gwlyb. Yn dywyll ac yn offerynnol, mae gigs Scalping yn cyfuno visuals wedi’u paratoi o flaen llaw gyda rhythm angerddol a chyson. Yn ei EP diweddaraf Chamber, gwelwn synth a prongs 303 yn cael ei asio at ei gilydd i greu y parti tanddaearol gorau erioed. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…