Ritual-Cloak

Daniel Barnett (Samoans) a’r cynhyrchydd Andrew Sanders yw Ritual Cloak. Fe gyd-weithodd y ddau am y tro cyntaf drwy chwarae fel band cefndirol i Jemma Roper ag ar ol i Samoans, band Daniel wahanu, fe ymunodd y ddau i greu Ritual Cloak.

Mae’r track diweddaraf, ‘Everyone Is Hungover So I Walked The Mountain Alone’ yn gymysgedd niwlog o guriadau glitchy minimalaidd a synau electroneg amgylchyddol – mae’n profi bod grym unedig y ddau yn fwystfil meistrolgar, mewn rheolaeth llwyr o’u cyfeiriad.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…