Panic Shack

Panic-Shack

Pryd

Gwener 21.10.22

Ble

Tramshed

Gyda geiriau ffraeth a phendant a bachau medrus, mae Panic Shack wedi taranu drwy sîn gerddoriaeth Prydain gyda thon enfawr o sŵn byddarol ac agwedd wrthryfelgar. Mae’r cerddorion Romi, Sarah, Emily a Meg, a ddysgodd eu hunain, yn cyfuno riffs pync dinistriol gyda geiriau miniog a therfysglyd, gan brofi mai DIY sydd orau bob tro. Mae wedi bod yn ddigon prysur i’r pedwarawd pync o Gymru ers y dechrau, gyda chefnogaeth gan BBC Radio 1, BBC Radio 6 Music a Radio X, yn ogystal â sawl sioe fyw yn cefnogi The Wytches, Grandma’s House a Buzzard Buzzard Buzzard.