Noon Garden

Pryd
Sadwrn 22.10.22
Ble
The Moon
Mae Noon Garden, prosiect unigol newydd yr aml-offerynnwr Charles Prest [1/4 Flamingods] yn ymchwilio i elfen seicedelig cerddoriaeth prog amgen, gan ychwanegu dos fawr o bop wedi’i ysbrydoli gan ffync hefyd. Mae Charles yn dweud bod ei dreftadaeth Affricanaidd, plentyndod yn Bahrain yn ogystal â degawd o deithio’r byd gyda’r band Flamingods, wedi cael dylanwad cryf ar sain amlochrog Noon Garden. Profiad arbrofol ac ecsotig Noon Garden yw’r daith pop-seicadelig sy’n rhwygo rheolau sonig yn ddarnau i greu tir newydd anghysbell lle byddwch yn torri’n rhydd i grŵfs troellog a rhythmau pellennig anarferol.