Westley Holdsworth
Mae Westley yn Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS, yn gweithio ar draws y Gronfa Agored ar gyfer Crewyr Cerddoriaeth, y Gronfa Arddangos Ryngwladol, partneriaethau’r BBC a’r Rhwydwaith Datblygu Talent. Cyn ymuno â Sefydliad PRS, bu’n Gydlynydd Rhyngwladol yng Nghomisiwn Cerddoriaeth Seland Newydd, gan helpu i lansio a thyfu gyrfaoedd rhyngwladol ystod eang o artistiaid. Mae ganddo gefndir mewn cerddoriaeth annibynnol fel cerddor mewn prosiectau metel, sŵn ac electronig a diddordeb brwd mewn dylunio sain gemau, technoleg cerddoriaeth ac ôl-gynhyrchu.
