Tobi Moore
Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Gwlad yr Haf, roedd hi’n llai o sioeau ac yn fwy o gasgliad o CDs a recordiau gan fy rhieni, neiniau a theidiau a siopau elusen fu’n gyfrifol am siapio fy chwaeth a rhoi’r awydd hwnnw i mi ddod o hyd i gerddoriaeth newydd. O The Cure i The Prodigy a chyda rhai recordiau disgo a soul clasurol yn eu plith, yn ogystal â gigs sain a chynhyrchu byw lleol yma ac acw, cymerais fy nghamau cyntaf yn y byd cerddoriaeth pan symudais i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol a dechrau blog.
Gyda chariad mawr at gerddoriaeth DIY Americanaidd, fe wnes i hi’n nod i hyrwyddo artistiaid o’r Unol Daleithiau a thramor, ac felly rhoddais gynnig ar amrywiaeth o feysydd ochr yn ochr â blogio, fel teithio a helpu gyda rhedeg zine (hir oes i secret meeting), cyn mynd i fyd cysylltiadau cyhoeddus. Lle cychwynnais i gyda’r nod o rannu’r gerddoriaeth roeddwn i’n ei charu a oedd yn aml yn cael ei hanwybyddu a’i thanbrisio a helpu’r artistiaid hyn o’r Unol Daleithiau i ddod o hyd i lwybrau i gyhoeddiadau yng ngwledydd Prydain… hyn oll o ystafell wely tŷ myfyrwyr yng Nghymru.
Gan ennill cefnogaeth i’m hartistiaid gan gwmnïau fel The Guardian, Crack, The Independent a llawer mwy, fe wnes i droi i ffwrdd o’r wasg i sefydlu label a chwmni rheoli. Yn fuan, arweiniodd un peth at y llall ac roedd gen i restr hyfryd o artistiaid o bob cwr o’r Unol Daleithiau, Ewrop a gwledydd Prydain. Gan lofnodi cytundebau recordio a chyhoeddi ledled gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau, cael fy artistiaid i deithio Ewrop, gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau gyda bandiau fel Beach House a Big Thief, chwarae mewn gwyliau fel Glastonbury, Green Man, Pitchfork a llawer mwy, canolbwyntiodd fy ngwaith datblygu artistiaid ar ddulliau cynaliadwy hirdymor gydag ymgysylltiad cymunedol a strategaethau marchnata ‘hynod’ a oedd yn teimlo’n hwyl i’r artistiaid a’r timau dan sylw. Gwnes i’r cyfan ar fy mhen fy hun ac fel rheolwr annibynnol.
A nawr o ddechrau’r flwyddyn hon dw i’n dal i reoli rhai prosiectau dethol, ond hefyd yn fy rôl newydd, fel yr A&R ar draws recordiau a chyhoeddi i Domino. Label a chyhoeddwr sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio diwylliant cerddorol ac un sydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o fy hoff artistiaid cyfredol a hen o artistiaid cwlt DIY i enwau cyfarwydd, felly roedd yn fraint ymuno â’r tîm yma.
