Louisa Robinson
Fi yw Cydlynydd Archebion Gŵyl Green Man, lle rwy’n gofalu’n bennaf am raglenni ar gyfer Llwyfan Rising, tra hefyd yn cefnogi gwaith curadu cerddoriaeth ar draws yr ŵyl gyfan. Rwy’n angerddol am gerddoriaeth newydd a datblygu talent, ac wrth fy modd fy mod i’n rhan o dîm sy’n helpu artistiaid newydd i ddod o hyd i blatfform.
Cyn ymuno â Green Man, roeddwn i’n gweithio fel hyrwyddwr yn FORM ac yn archebwr mewnol yn The Boileroom yn Guildford. Rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw ers dros 7 mlynedd, ac rydw i’n arbennig o angerddol am gefnogi artistiaid bach a hyrwyddo cwmnïau cerddoriaeth llawr gwlad ac annibynnol.
