Ivano Maggiulli
Sylfaenydd Brace Yourself PR sydd wedi bod yn weithredol ers bron i bymtheg mlynedd yn cynrychioli rhai o’r talentau gorau ledled y byd ar gyfer hyrwyddo PR a Radio. Mae ganddo restr artistiaid eclectig ac arloesol gan gynnwys talent fel Ezra Collective, Mitski, Khruangbin, Japanese Breakfast, Denzel Curry, Robert Glasper, Yazmin Lacey, Sharon Van Etten, Moses Boyd, Fela Kuti, a llawer mwy. Mae’r cwmni hefyd wedi lansio ei label Recordiau, Brace Yourself Records, gan ddarparu platfform i artistiaid newydd gan ymestyn ei wasanaethau ymhellach byth. Mae’r label wedi llofnodi’r grŵp o Gymru, Panic Shack yn ddiweddar ac fe lwyddodd eu halbwm cyntaf i gyrraedd rhestr y 40 uchaf yn y DU yn 2025.
