Helena Watmuff
Mae Helena yn artist ac yn rheolwr gynhyrchydd, ac mae wedi gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ers dros 10 mlynedd. Dechreuodd Candy Artists yn 2020, a chyn hyn bu’n gweithio mewn sawl maes yn y diwydiant gan gynnwys perfformiadau byw, cyllid, dosbarthu a labeli. Hi yw Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Artbox, elusen sy’n cefnogi artistiaid ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth i greu, arddangos a gwerthu eu gwaith celf. Ar hyn o bryd mae Helena yn rheoli BODEGA, Child of Prague, HONESTY, The Orielles, ac Oscar Browne, ochr yn ochr â’r cynhyrchwyr Sergio Maschetzko a Matt Peel.
