Chris Bellam
Mae Underplay yn gwmni sydd wedi bod yn datblygu ers 22 mlynedd. Mae ganddo un amcan clir: sicrhau bod y bobl gywir yn clywed y gerddoriaeth gywir yn y ffordd gywir, boed hynny’n artistiaid, labeli, cyhoeddwyr, cynhyrchwyr, archebwyr, cyflwynwyr, goruchwylwyr, rhaglenwyr, neu’n uniongyrchol i’r cefnogwyr.
Ein prif ffocws yw rheoli artistiaid rydyn ni’n eu caru gan hyrwyddo cerddoriaeth ar draws teledu, radio, y wasg, sync, a darparwyr gwasanaethau digidol. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd lawer ac mae ganddon ni gyfoeth o wybodaeth, profiad a chysylltiadau rydyn ni’n eu hystyried yn ffrindiau.
Sefydlodd Chris Bellam y cwmni yn 2016 ac mae wedi gweithio ochr yn ochr ag artistiaid, cynhyrchwyr, rheolwyr a phobl greadigol, yn eu plith rhai sydd wedi cael clod gan y beirniaid a rhai sydd wedi cyrraedd brig y siartiau ers 2001. Mae wedi’i yrru gan angerdd dros gerddoriaeth wych ac awydd i ddod o hyd i’r rheini sydd eto i’w darganfod.
