Mellt

Mellt

Pryd

Sadwrn 22.10.22

Ble

Jacobs Back Room

Ar ôl cael gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhoddodd y record hir Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc y band indi pedwar aelod Mellt ar y trywydd cywir, gan wneud eu marc yn glir ar dirlun eang cerddoriaeth Cymru. Gyda llais sydd bron yn llafarganu, gitâr sgrechlyd a drymiau beiddgar, mae Mellt yn anarchwyr y dorf, gan achosi twrw lle bynnag maen nhw. Mae Mellt wedi cael eu dylanwadu gan The Clash, The Band a The Replacements, ac maen nhw wedi cael blwyddyn brysur yn gwneud iawn am y cyfnod clo gan chwarae sioeau bywiog ledled y wlad.