LMNC

Efallai mai hwn yw’r unig berfformiwr yn Sŵn sy’n dod â beic synth rhyngweithiol i’r llwyfan. Mae Look Mum No Computer yn brosiect gan Sam Battle, yn arbrawf hwyl sy’n addasu offerynnau mewn i bethau hollol gwallgof. Ers gadael ei fand baenorol Zibra, mae addasiadau Zibra wedi creu rhyw fath o gwlt: yn ogystal i’r BMX sy’n gallu cael ei chwarae ma na Organ Furby (wedi’i wylio 4.4 miliwn gwaith), cerddorfa Gameboy, perfformiadau ar stylophones wedi’i hacio, beiblau a duw a wyr beth arall! Yn hanner electropop, hanner rêf yn Techniquest a 100% parti. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…