Indian-Queens

Fel breuddwyd sy’n datblygu’n ara’ deg, mae caneuon Indian Queens yn fesmeraidd, llyfn ac yn gwbwl hyfryd. Wedi’u sefydlu yn Hacni Wick, Llundain, mae’r chwiorydd Jennifer a Katherine O’Neil (gitar) a’i hen ffrind Mat (drymiau) yn gysylltiedig â Bella Union, label cafodd ei sefydlu gan Simon Raymonde, Cacteau Twins. Erbyn heddiw, mae Indian Queens ar y label Cool Things, ac wedi rhyddhau caneuon newydd fel You Came Over Late, cân sy’n arddangos gallu arbennig y band o greu shoegaze pop, tempos diddorol a sŵn hollol hyfryd ac unigryw.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…