Hotel-Lux

O’r un lle swnllyd yn Ne Llundain y mae Shame a Goat Girl yn dod, Hotel Lux yw’r bobl sy’n dogfennu’r ardal yma i’r dim, yn esbonio eu bywydau boozy trwy roc gitar greadigol. Ar ochr fwy ysgafn y band y mae caneuon fel The English Disease a Half Man Half Biscuit, ond yna ar ochr dywyll y band cawn Daddy a The Last Hangman. Sŵn trwm, dwys sy’n sicr o gleisio’ch clustiau.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…