
PRIF ŴYL DARGANFOD CERDDORIAETH CYMRU.
CYNLLUNIAU TALU
Eleni ry’n ni wedi cyflwyno cynlluniau talu, fel bod modd i chi dalu am eich tocynnau mewn rhandaliadau. Bydd angen i’r taliadau gael eu gwneud ar y 1af o bob mis, â’r taliad olaf i’w gymryd ar y 1af o Awst. Y cynharaf y byddwch yn archebu eich tocynnau, y rhataf bydd y rhandaliadau. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth gan ein cyflenwyr tocynnau, Universe, ar y dudalen check-out
CONCESSION TOCYNNAU
Am y tro cyntaf erioed, eleni ry’n ni’n cyflwyno gostyngiad i bawb sy’n 23 ac iau, ac unrhyw un (o unrhyw oed) sydd mewn addysg bellach. Mae pris y tocynnau yma’n dechrau am gyn lleied â £35. Dangoswch eich ID neu ID myfyriwr yn y Gyfnewidfa bandiau garddwrn wrth sganio eich tocyn.
NEWYDDION

Sŵn Cysylltu
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi cynhadledd ar ei newydd wedd, Sŵn Cysylltu. Dyma gynhadledd ddeuddydd ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth sy’n cynnig cyfleoedd pwrpasol i rwydweithio a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â Gŵyl Sŵn. Mae’r gynhadledd wedi’i dylunio ar gyfer y cyhoedd, artistiaid, gweithwyr newydd yn y diwydiant, cynrychiolwyr a deiliaid tocynnau Gŵyl […]

CYHOEDDI TON ARALL O 52 O ARTISTIAID, BANDIAU FESUL DYDD, A MWY YN SŴN 2024
Rydyn ni wrth ein boddau o gael croesawu 52 o artistiaid ychwanegol i raglen Sŵn 2024. Mae’r ddeuawd bync o Brighton, Lambrini Girls, yn dod i Gaerdydd yn yr hydref gyda’u dadansoddiadau brathog tafod-yn-y-boch o faterion cymdeithasol tanbaid. Mae eu sengl daranllyd ddiweddar ‘God’s Country’ wedi arwain at ganmoliaeth i’r band ym mhobman, ar BBC […]

Ymgeisio i Chwarae yn Sŵn 2024
Mae Gŵyl Sŵn yn dychwelyd am yr 16eg tro fis Hydref yma, a ry’n ni’n awyddus i groesawu’r to nesaf o artistiaid ifanc i’r brif ŵyl yng Nghymru ar gyfer darganfod cerddoriaeth newydd. Dros y blynyddoedd mae Sŵn wedi croesawu Self Esteem, Sam Fender, Black Country New Road, Dry Cleaning a llawer mwy i’r brifddinas […]

Cyhoeddi’r Don Gyntaf o 57 o Artistiaid ar gyfer Sŵn 2024
Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r newyddion cyffrous am y don gyntaf o artistiaid eleni. Mae’r arlwy’n cynnwys amrywiaeth anhygoel o ddoniau. Bydd Wu-Lu yn dod â’i gyfuniad unigryw o grynj, pync, a hip-hop i strydoedd Caerdydd. Bydd English Teacher yn eich swyno gyda’u cymysgedd o emo-roc, pop breuddwydiol, a seicedelia. Bydd Hannah Diamond, tywysoges […]
Cofrestrwch i’r cylchlythyr am gyfle i ennill 2 docyn i Gŵyl Sŵn 2024 a mynediad ecsgliwsif i docynnau cynnar Sŵn.