Skip to content

Gwirfoddolwyr

Mae ceisiadau ar gyfer Gwirfoddolwyr Sŵn 2024 nawr ar agor! Mae Gwirfoddolwyr Sŵn yn cyflawni ystod fawr o dasgau a dyletswyddau ar draws yr ŵyl. Bydd y rolau yma’n gweithio gyda chwsmeriaid ac artistiaid, ac felly rydyn ni’n chwilio am bobl hyderus, weithgar a chyfeillgar i ymuno â thîm Gŵyl Sŵn. Edrychwch ar y rolau isod i ddysgu mwy.

Pethau Cyffredinol i’w Nodi:

  • Bydd gofyn i bob gwirfoddolwr weithio o leiaf dwy sifft chwech awr dros y penwythnos
  • Byddwch yn cael band arddwrn am ddim i’r ŵyl am eich gwaith, ac un tocyn bwyd am bob sifft chwech awr
  • Pan na fyddwch chi ar eich sifft, rydyn ni’n eich annog i ddefnyddio’r band arddwrn i fwynhau’r bandiau a’r artistiaid anhygoel sy’n perfformio dros y penwythnos
  • Rydyn ni’n edrych ymlaen i weithio gyda chi, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eich amser dros benwythnos Sŵn