GWIRFODDOLWYR GŴYL SŴN
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud ystod eang o dasgau a dyletswyddau ar draws yr ŵyl. Mi fydd gofyn i chi weithio gyda chwsmeriaid ac artistiaid, felly rydym yn chwilio am bobl hyderus, gweithgar a chyfeillgar i ymuno â thîm Gŵyl Sŵn.
Pethau Cyffredinol i’w Nodi:
Bydd gofyn i bob gwirfoddolwr weithio o leiaf dwy shifft chwe awr dros y penwythnos
Byddwch yn derbyn band garddwn ar gyfer Gŵyl Sŵn am ddim ar gyfer eich gwaith a thocyn bwyd ar gyfer pob shifft chwe awr
Pan nad ydych chi ar shifft, rydym yn eich annog i ddefnyddio eich band garddwn a mynd i fwynhau’r nifer o fandiau ac artistiaid anhygoel sy’n perfformio dros y penwythnos
Ni’n edrych ‘mlaen i gyd-weithio gyda chi ac yn ddiolchgar iawn i chi am eich amser dros benwythnos Sŵn.