Gruff-Rhys

Eistedda i lawr gyda rhywun yng Nghymru mewn tafarn, a gofynna iddyn nhw beth yw ei hoff adeg Gruff Rhys, a phob lwc i ti wrth i ti drio dilyn y sgwrs. Ai blynyddoedd y Super Furry Animals, neu cyn hynny yn Ffa Coffi Pawb neu ar ôl yn Neon Neon? Ai perfformiad llwyfan The Incredible, Instatiable Candylion? Neu beth am y ddogfen deithiol Seperado! a America Interior? Yn llenwi Clwb wrth iddo berfformio ar y cyd gyda’r gŵr o Brasil Tony Da Gatorra? Yn crensian ar foronen yn Misty’s Big Adventure? Neu yn syml iawn, bod yn ysbrydoliaeth ddiddiwedd a cherddor sydd nid yn unig yn creu gwaith unigol a grŵp anhygoel, ond sydd â’r gallu a’r awch i wneud mwy, mewn sawl cyfeiriad, yn y ffordd fwyaf diddorol erioed? Yr un olaf siŵr o fod, neu’r gwallt.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…