Grace-Lightman

Pumdeg mlynedd ers i Neil Amstrong & co fethu dod a unrhyw fath o estroniaid nôl i’r ddaear, mae Grace Lightman yma i wystrellu vibes estroniaid mewn i’n bywydau, ond nid vibes estroniaid cyffredin mohonynt, ond vibes estroniaid Ffrenging, disgo a roc arallfydol. Mae ei LP cyntaf ‘Silver Eater’ yn albym DIY am estron sy’n trio deall defodau rhyfedd bodau dynol ar y ddaear. Mae’r caneuon yma wedi eu gorchuddio yn ofalus gan krautpop o bob lliw y byddau Goldfrapp, Air neu Add N To (X) yn falch o weld. Dyma’ch pwdin i’r penwythnos. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…