Skip to content

cymerwch ran

Gwnewch gais i Chwarae

Mae cynllun Ymgeisio i Chwarae Gŵyl Sŵn yn ôl ar gyfer 2025!

Bydd Gŵyl Sŵn yn cael ei chynnal ar yr 16eg, 17eg a’r 18fed o Hydref eleni ar draws 11 lleoliad yng Nghanol Caerdydd.

Bydd y cyfle i chwarae yn Sŵn 2025 yn rhoi’r llwyfan i chi chwarae ymhlith rhai o’r talentau gorau sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd, mynychwyr sy’n caru cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Bydd pob artist yn derbyn taliad am eu perfformiad, arlwyo, defnydd o backline yr ŵyl a band arddwrn ar gyfer yr ŵyl gyfan a mynediad i’n cynhadledd gerddoriaeth, Sŵn Connect.

Bydd angen i chi fod yn 18+ oed ar neu cyn Hydref 16eg 2025 a bydd angen i chi fod ar gael ar draws tri diwrnod yr ŵyl.

Os hoffech chi gael y cyfle i chwarae ym mhrif ŵyl darganfod cerddoriaeth Cymru, llenwch y ffurflen isod.

Bydd ceisiadau ar agor o’r 3ydd Gorffennaf 2025 a bydd ceisiadau’n cau ar yr 18fed Gorffennaf 2025. Ein nod fydd cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn y 13eg Awst 2025.

Pob Lwc!

Tîm Gŵyl Sŵn x

Ceisiadau’r Wasg

Llenwch y ffurflen isod i ymgeisio am bàs y wasg ar gyfer Gŵyl Sŵn 2025. Byddwn yn anelu i gysylltu â’r holl ymgeiswyr llwyddiannus cyn y 1af o Hydref 2025.