DIGWYDDIADAU FRINGE GŴYL SŴN
Ni’n hapus iawn i gyhoeddi bod Sŵn 2019 yn dod gyda llond llaw o ddigwyddiadau bach rhyfedd i arwain at y penwythnos! Porwch y digwyddiadau islaw…
Dydd llun
14.10.19 | 19:00 | Nos Da
Cwis miwsig gŴyl SŴN: POTTER & POTTER VS TOM & DYL
Ar nos Lun, mi fyddwn ni’n ateb yr un cwestiwn mawr (yn o gystal a llond llaw o rhai eraill) – pwy yw’r par o cwis-feistriaid mwya’ pwerus a galluog yng Nghaerdydd? Potter & Potter? Ynteu Tom & Dyl?
Mi fyddwn ni’n dod a’r ddau bâr at eu gilydd i greu un cwis gerddoriaeth – i’w rheoli nhw i gyd…
Mae Potter & Potter wedi bod yn dal y deitl am rhai blynyddoedd nawr, a mae’n hawdd deall pam. Dyw’r ddau yma ddim yn chwarae o gwmpas. Gyda’u gilydd, mae’u ymennydd yn pwyso dwy waith gymaint ag ymennydd arferol person!
Dydd mercher
16.10.19 | 19:00 | Tiny Rebel
Double D’s Hot Sauce Karaoke
Dere i ganu a stwffio dy wyneb gyda llond ceg o’r saws poeth gore yn y byd yn Tiny Rebel ar nos Iau. Dere i ddewis dy hoff gân, a gad i dy ddwylo seimllyd ymlwybro draw at y ‘wings’ (mi fydd ‘vegan seitan wings’ a ‘wings’ cyw-iâr ar gael) a dewisa’ dy ffefryn.
Mae Double D’s, sef Edd Clemas, yn creu saws poeth yma yng Nghaerdydd (mae e hefyd wedi perfformio yng Ngŵyl Sŵn ar sawl achlysur, gyda’r post-rockers, False Hope For The Savage).
Dydd sadwrn + dydd sul
19+20.10.19 | 09:30 | tu fas i Clwb Ifor Bach
Rhedeg gyda RUNNING PUNKS
Ewch i ol eich sgidiau rhedeg a byddwch yn barod i bwmpio endorffins trwy’ch corff cyn i’r Dydd Sadwrn a Sul ddechrau gyda’r Running Punks; Jimmy a Rhodri! Sefydlwyd Running Punks gan y cerddorion lleol yma fel ffordd o gyfuno eu agwedd punk at fywyd a’u hangerdd dros redeg! Mae sï bod cwpl o’r artistiaid am ymuno hefyd…
DYdd sadwrn
19.10.19 | Kongs
Ping-pong: Herio’r artistiaid
Dyma pam ni yma. Dyma pam chi yma. I chwarae’r gem orau’r byd yn erbyn artistiaid gorau’r byd. 12 mlynedd o Sŵn – ag am hwn ni wedi bod yn aros. Dyma be ni gyd wedi bod yn gweithio tuag at. Os chi yma yn Sŵn i gal “laff”, neu i “fwynhau”, cadwch at y gigs ag arhoswch mas o’n ffordd. Ni o ddifri.
trwy’r penwythnos
18-20.10.19
pob gigfan
RSPB: gadewch i natur ganu
dydd sul
20.10.19 | Jacob’s Market | 12:00 – 19:00
Heavenly Records yn cyflwyno: A heavenly afternoon
Bydd Heavenly Recordings yn cael Prynhawn Nefolaidd ym Marchnad Jacob’s ddydd Sul rhwng 12yp a 7yh gyda phitsa (yn syth o van Callabrisella!), coctêls mari waedlyd a phum band o’r label.
Line-up:
Amber Arcades
audiobooks
Katy J Pearson
Raf Rundell
Working Men’s Club
Trwy’r Penwythnos
18-20.10.19 | Clwb ifor bach + KONGS
Photobooths
Cer a souvenir nol gyda ti o’r photo-booth, mae yna un yn Kongs neu yn Clwb Ifor Bach! Nawr, ni wedi clywed sî bod y ddau bŵth yma wedi’i bartneri fyny trwy ryw fath o hud anesboniadwy, fydd yn eich galluogi i fynd o un lleoliad i’r llall fel Bart yn The Simpson’s Treehouse of Horror VIII. Ond, sî yw hwn, felly pwy ag ŵyr os bod e’n wir…
Trwy’r penwythnos
18-20.10.19
Rhaglen
Bingo Sŵn
Gwnewch yn siwr o fflicio nol i gefn y rhaglen wrth ymlwybro dros y penwythnos i ganfod rhai golygfeydd arferol (a prin) sydd ar eich cerdyn Bingo Sŵn! Ticiwch nhw i ffwrdd wrth i chi grwydro. Mi fyddwn ni’n gwobrwyo rhywun gyda 2 docyn i Sŵn 2020 – ewch i’r dudalen am fwy o wybodaeth!
Dydd SUl
20.10.19 | 23:00 | CLWB IFOR BACH
DIM SŴN: Parti Diwedd SŵN 2019
Mae’n nos Sul, ti wedi bod ar dy draed am y 72 awr diwethaf yn hopian o le i le yn darganfod artistiaid a synau newydd – ti methu stopio, ti ddim moyn stopio, ti methu meddwl am unrhywbeth gwaeth ‘na mynd adre a rhoi gorau i’r penwythnos ecstatig yma. Paid a poeni – ma’ gyda ni rhywbeth i chi. Mae gang Heavenly Recordings yn barod i gamu at y podiwm DJ yn Clwb am y ddawns olaf! Dyma after party enwog Sŵn. Gall gwsg aros.