Francis-Lung

Mae Francis Lung yn ganwr/cyfansoddwr a chynhyrchydd â’r ddawn i chwarae sawl offeryn, o Fanceinion. Dechreuodd ysgrifennu a chasglu cerddoriaeth ar ôl dirywiad ei fand blaenorol WU LYF yn 2012. Rhyddhaodd ei EP cyntaf ‘Vol 1’ ar ei label ei hun ‘Songs Records’ ac yn 2015 disgrifiodd The Line Of Best Fit yr EP fel “antholeg o gyfansoddiadau meistrolgar, clasurol a thyner”. Canmoliwyd ei EP nesaf ‘Vol ||’ fel “melodïau hamddenol, meddylgar a threfniadau cymhleth sy’n gwegian mewn atmosffer ôl-bync”.

 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…