Far-Caspian

Adeiladwyd cynsail lo-fi Far Caspian yn neuadd prifysgol y cynhyrchydd a’r prif leisydd, Joel Johnston cyn ymunodd Jof Cabeda (drymiau a llais) ac Alessia Scozarro (bass a llais). Ers denu sylw blogs yn fuan yn ystod eu gyrfa, mae’r band pop-breuddwydiol wedi eu henwi fel “One of the North’s best emerging indie bands of the year” gan The Line of Best Fit, gyda’r cynulleidfaoedd byw yn ymateb yn bositif tu hwnt i’w taith cyntaf wrth i nifer o’u perfformiadau werthu pob un tocyn.

Gyda’u tracs o’u EP cyntaf ‘Between Days’ a’u senglau breuddwydiol pop ‘A Dream of You’ a ‘Conversations’ yn derbyn cefnogaeth gan Radio 1, 6 Music a Radio X a chael eu caneuon wedi’u ffrydio miliynnau o weithiau ar Spotify a Youtube, mae Far Caspian yn parhau i greu stwr gyda’u tiwns aeddfed, llyfn ac unigryw.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…