False-Hope-for-the-Savage

Fel rhyw fath o supergroup lleol, mae False Hope For The Savage sydd wedi’i seilio yng Nghaerdydd, yn cynnwys aelodau o Samoans, Cut Ribbons a The Echo And The Always, ac wedi bod yn chwarae yn afreolaidd ers ffurfio cwpl o flynyddoedd yn ôl.

Maent yn creu sain post-rock, atmosfferig sy’n adeiladu mewn ffordd epig i’r clustiau. Disgwyliwch fwg dramatig ar lwyfan yn ystod y perfformiad prin gan y bwystfilod swnllyd yma.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…