Elis-Derby

Dechreuodd Elis recordio ac uwchlwytho demos i’w broffil Soundcloud yn ystod misoedd cynnar 2018, gan fynd ymlaen i ddechrau perfformio’n fyw ym mis Awst gyda band llawn. Ers hynny mae wedi bod yn gigio’n rheolaidd o gwmpas Cymru, a wedi ffeindio’r amser i ryddhau 3 sengl, gan gynnwys ei ddiweddaraf ‘Yn Y Bôn’, sydd allan nawr ar Recordiau Hufen. Gyda Haf 2019 yn rhagdybio i fod yn un prysur iawn iddo, y bwriad yw mynd i’r stiwdio i ddechrau rhoi sylfaen i albwm/EP sydd ganddo wedi ei ‘sgwennu yn barod – gyda mwy o fanylion i ddod ar hynny yn fuan!

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…