Dry-Cleaning

O weld ffilmiau o’r band yn perfformio’n fyw, mae’r prif leisydd Florence, yn sefyll tu ôl i stondin gerddoriaeth a thaflenni o bapurau arni, fel pe bai’n barod i roi darlith ar gerddoriaeth ôl-bync. Mae llafar ganu Florence yn dominyddu cerddoriaeth y band o Lundain, gyda hanesion a chwedlau yn cael eu hadrodd dros gerddoriaeth roc trwm. Gydag arddull sy’n debyg i Kim Gordon, Linda Steelyard o Porlapse neu Sue Tompkins o Life Without Buildings, mae’n dric hud, sydd angen cael ei weld dro ar ôl tro ar ôl tro. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…