Westley Holdsworth
Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS yw Westley, sy’n gweithio ar draws cronfeydd y Gronfa Agored i Grewyr Cerddoriaeth, y Gronfa Arddangos Rhyngwladol, partneriaethau’r BBC a’r Rhwydwaith Datblygu Doniau. Cyn ymuno â Sefydliad PRS, fe oedd Cydlynydd Rhyngwladol Comisiwn Cerddoriaeth Seland Newydd, gan helpu i lansio a thyfu gyrfaoedd rhyngwladol ystod eang o artistiaid. Mae ganddo gefndir ym maes cerddoriaeth annibynnol ac mae’n gerddor mewn prosiectau metel, sŵn ac electronig, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn dylunio sain gemau, technoleg cerdd ac ôl-gynhyrchu.